Rydym yn cysylltu â chi ar ran yr elusen Settled, i’ch gwneud yn ymwybodol o’r dyddiad cau ar 30 Mehefin ar gyfer ceisiadau i Gynllun Setliad yr UE. Mae’r e-bost hwn yn darparu gwybodaeth am y cynllun.
Mae’r e-bost hwn yn darparu mwy o wybodaeth am y cynllun. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech anfon yr e-bost hwn at eich cynghorwyr oherwydd efallai eu bod yn adnabod pobl a allai gael eu heffeithio. Efallai yr hoffech chi bostio peth o’r wybodaeth a ddarperir ar eich tudalen Facebook gymunedol hefyd os oes gennych chi un.
Sefydlwyd Cynllun Setliad yr UE o dan delerau y cytundeb a wnaeth y DU wrth adael yr UE, mae’n berthnasol i ddinasyddion yr UE ac EFTA a ddaeth i’r DU cyn diwedd y cyfnod Pontio Brexit ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020. Mae trefniadau tebyg yn berthnasol ar gyfer dinasyddion y DU sy’n byw ac yn gweithio ar gyfandir Ewrop.
Mae angen i drigolion yr UE ac EFTA yn y DU yr effeithir arnynt gan hyn wneud cais os ydynt yn dymuno cadw eu hawliau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU. Nid yw rhai pobl yn ymwybodol bod hyn yn berthnasol iddynt, gan gynnwys hyd yn oed rhai cyn-filwyr oedrannus yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i’r DU ymhell cyn i’r DU ymuno â’r UE. Yn ogystal, mae angen i blant rhai sy’n cyrraedd yn fwy diweddar, sydd wedi sicrhau hawliau i fyw a gweithio yn y DU, gael ceisiadau unigol ar eu rhan er mwyn sicrhau y byddant yn gallu cael mynediad at ofal iechyd ac addysg yn y dyfodol.
Mae fideo fer (3-4 munud o hyd) sy’n darparu trosolwg o Gynllun Setliad yr UE a rhai o’r materion dan sylw ar gael ar YouTube gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir waelod yr e-bost hwn:
• Saesneg: https://youtu.be/xtPNwozO0kw
• Cymraeg: https://youtu.be/7kNxiGBHwJ4
Gellir lawrlwytho copïau digidol o bosteri sy’n darparu gwybodaeth am y cynllun trwy glicio ar y delweddau isod neu ar y dolenni a ddarperir oddi tanynt. Gellir argraffu’r rhain i’w harddangos ar hysbysfyrddau cymunedol.