Author: Lyndsey Maiden

Galwad Agored – Uno’ch Galwad Agored

Oes gennych chi:
• Syniad am brofiad bwyta cymunedol (neu ydych chi’n rhedeg un yn barod)?
• Ydych chi eisiau dod â phobl at ei gilydd trwy goginio, bwyta a rhannu bwyd lleol er mwyn cefnogi cymunedau gwledig?
• Ydych chi eisiau cefnogaeth i greu cyfleoedd cymdeithasol, llon sy’n ymwneud â bwyd yn eich ardal leol?

Rydym yn gwahodd unigolion a sefydliadau yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn prosiect peilot newydd – i brofi pecyn cymorth creadigol ar ymgynghori cymunedol ac yna cael cymorth mentora wedi’i deilwra er mwyn sefydlu’r prosiect. Rydym ni’n awyddus i weld pa gymorth all eich helpu i ddechrau rhywbeth gwledig neu wella’r hyn rydych yn ei wneud ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd ardaloedd gwledig.

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw: 5yp Dydd Sul 25 Ionawr

Cliciwch y ddolen ar waelod y ddogfen i fynegi eich diddordeb; Cysylltwch â Amie Andrews: ama108@aber.ac.uk

Neu cysylltwch â chydlynydd eich partneriaeth bwyd leol i gael help gyda’r cais neu i gysylltu â sefydliadau eraill:
• Sir Gâr: Augusta Lewis augusta@farmgarden.org.uk

Uno’ch Cymuned Trwy Fwyd! / Bring Your Community Together Through Food!  – Fill out form

Cyngor Cymuned Llanwrda Community Council

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn 18 oed neu hun ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod, neu

  1. yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall
  2. yn y gymuned a enwir uchod, neu
  3. wedi bod a’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod, neu
  4. rydych wedi byw yn y Gymuned, neu of fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

Cysylltwch ag unrhyw aelod o’r Cyngor Cymuned neu anfon e-bost at y Clerc:
joywaters@hotmail.co.uk

Digwyddiadau plannu i wirfoddolwyr yng Nghoedwig Abermarlais, Brownhill.

Yn dilyn ein e-bost diweddar ar 17 Ionawr am ein cynlluniau ar gyfer y coetir newydd yn Brownhill, dyma nodyn i roi gwybod i chi am rai cyfleoedd sydd gennym ar y gweill i chi ymuno â ni i blannu coed yn y coetir newydd.

Byddwn yn cynnal dau ddiwrnod plannu, ddydd Sadwrn 18 a dydd Sadwrn 25 Mawrth, y bydd Tir Coed yn eu rhedeg ar ein rhan.

Os hoffech ymuno â ni, mae manylion am sut i gofrestru isod.

Os na allwch fod yno y tro hwn, bydd cyfleoedd eraill i gymryd rhan yn y gwaith o ofalu am goed a’u plannu yn y dyfodol.

Fideos codi ymwybyddiaeth / hyrwyddo – Cynghorwyr Cymuned a Thref

Mae Un Llais Cymru – gyda chymorth Llywodraeth Cymru – wedi cyhoeddi fideo i hyrwyddo ac annog unigolion i gyflwyno eu henwau yn ymgeisyddion ar gyfer etholiadau cynghorau cymuned a thref a gynhelir ym mis Mai 2022. Mae’r fideo sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg yma:

Cymraeg Hafan – One Voice Wales – Welsh (unllaiscymru.org.uk)
Saesneg Home – One Voice Wales

Mae’r fideo yn:

· Codi ymwybyddiaeth o rôl a chyfraniad cynghorwyr cymuned a thref i gymdeithas

· Nodi sut mae cynghorwyr cymuned a thref mewn sefyllfa dda i wybod beth yw blaenoriaethau ac anghenion eu hardal leol a sut all cynghorau gydweithio gyda phartneriaid lleol i greu newid cadarnhaol

· Nodi pwysigrwydd amrywiaeth mewn llywodraeth leol

· Tynnu sylw at yr heriau y mae cynghorwyr yn eu hwynebu a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt e.e. trwy raglenni hyfforddiant a drefnir gan Un Llais Cymru

· Amlinellu’r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y maent wedi’u meithrin trwy eu rôl a sut ellir eu defnyddio mewn agweddau eraill ar fywyd a gwaith, gorfod cyfarwyddo a deall nifer o faterion anghyfarwydd a chael gwell dealltwriaeth o sut mae democratiaeth leol yn gweithio

· Cyfleu bod gan bawb sgiliau y gallent eu cynnig i rôl Cynghorydd o’u bywyd bob dydd e.e. trefnu, cyfathrebu, datrys problemau ac ati

Dyddiad cau cais Cynllun Setliad yr UE (30-Mehefin)

Rydym yn cysylltu â chi ar ran yr elusen Settled, i’ch gwneud yn ymwybodol o’r dyddiad cau ar 30 Mehefin ar gyfer ceisiadau i Gynllun Setliad yr UE. Mae’r e-bost hwn yn darparu gwybodaeth am y cynllun.

Mae’r e-bost hwn yn darparu mwy o wybodaeth am y cynllun. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech anfon yr e-bost hwn at eich cynghorwyr oherwydd efallai eu bod yn adnabod pobl a allai gael eu heffeithio. Efallai yr hoffech chi bostio peth o’r wybodaeth a ddarperir ar eich tudalen Facebook gymunedol hefyd os oes gennych chi un.

Sefydlwyd Cynllun Setliad yr UE o dan delerau y cytundeb a wnaeth y DU wrth adael yr UE, mae’n berthnasol i ddinasyddion yr UE ac EFTA a ddaeth i’r DU cyn diwedd y cyfnod Pontio Brexit ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020. Mae trefniadau tebyg yn berthnasol ar gyfer dinasyddion y DU sy’n byw ac yn gweithio ar gyfandir Ewrop.

Mae angen i drigolion yr UE ac EFTA yn y DU yr effeithir arnynt gan hyn wneud cais os ydynt yn dymuno cadw eu hawliau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU. Nid yw rhai pobl yn ymwybodol bod hyn yn berthnasol iddynt, gan gynnwys hyd yn oed rhai cyn-filwyr oedrannus yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i’r DU ymhell cyn i’r DU ymuno â’r UE. Yn ogystal, mae angen i blant rhai sy’n cyrraedd yn fwy diweddar, sydd wedi sicrhau hawliau i fyw a gweithio yn y DU, gael ceisiadau unigol ar eu rhan er mwyn sicrhau y byddant yn gallu cael mynediad at ofal iechyd ac addysg yn y dyfodol.

Mae fideo fer (3-4 munud o hyd) sy’n darparu trosolwg o Gynllun Setliad yr UE a rhai o’r materion dan sylw ar gael ar YouTube gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir waelod yr e-bost hwn:
• Saesneg: https://youtu.be/xtPNwozO0kw
• Cymraeg: https://youtu.be/7kNxiGBHwJ4

Gellir lawrlwytho copïau digidol o bosteri sy’n darparu gwybodaeth am y cynllun trwy glicio ar y delweddau isod neu ar y dolenni a ddarperir oddi tanynt. Gellir argraffu’r rhain i’w harddangos ar hysbysfyrddau cymunedol.