Os fyddwch chi’n derbyn neges drwy Facebook yn holi “ai ti yw hwn/hon?” Peidiwch â chlicio ar y ddolen. Peidiwch â nodi eich rhif defnyddiwr na’ch cyfrinair ar gyfer Facebook!
Sut i ddiogelu’ch hun yn erbyn gwe-rwydwyr
Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw a chymhleth ar gyfer eich holl gyfrifon ar-lein. Mae rheolwyr cyfrinair yn eich helpu i gynhyrchu cyfrineiriau cryf ac yn eich hysbysu pan fyddwch chi’n ailddefnyddio hen gyfrineiriau.
Defnyddiwch ddilysu aml-ffactor lle bo’n bosibl.
Byddwch yn ymwybodol o unrhyw negeseuon a anfonir atoch, hyd yn oed rhai gan eich cysylltiadau ar Facebook. Bydd ymosodiadau gwe-rwydo fel arfer yn defnyddio rhyw fath o deilwra cymdeithasol i’ch denu i glicio ar ddolenni maleisus neu lawrlwytho ffeiliau sydd wedi’u heintio.
Cadwch lygad allan am unrhyw weithgarwch amheus ar eich cyfrif Facebook neu gyfrifon ar-lein eraill.