YNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod rhithwir Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 o’r gloch gan ddefnyddio MS Teams ar nos Fercher 21 Mehefin, 2023
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd R. Jones
Cynghorwyr: J. Thompson, B. Charles Davies
Cynghorydd Sir A. Davies
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd M. Goddard-Pepperzak (roedd problem gyda’r cyswllt)
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis, Bute Energy
Cynghorydd B. Charles Davies – Bute Energy
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
9 (a) Man Chwarae
Ni dderbyniwyd anfoneb gan Wicksteed. Trafodwyd a chytunwyd mai Cyngor Cymuned Llanwrda fyddai’n gyfrifol am dorri’r gwair o amgylch yr Offer Chwarae. Cysylltwyd â Hugh Gwynne Fencing a chytunwyd i wneud y gwaith. Byddai’r gwaith yn cael ei adolygu ym mis Medi.
9 (e) Cŵn yn baeddu – lôn yr ysgol
Roedd y Clerc wedi anfon posteri a chytunodd y Cadeirydd i’w harddangos.
9 (f) Cilfan Bancynos, Llanwrda
Cytunwyd i ddileu hyn oddi ar yr Agenda.
9 (h) Prosiect Ysgol Cornwallis
Dim byd pellach i’w adrodd. i’w dynnu oddi ar yr Agenda.
9 (i) Ffordd yr A40 – Llanwrda
Roedd y Clerc wedi ysgrifennu at Lee Waters, A.S., ond ni dderbyniwyd ateb hyd yma.
9 (k) Ynni Bute
Roedd ateb i’n llythyr wedi dod i law oddi wrth Julie James.
9 (l) Torri ymylon glaswellt
Roedd yr ymylon glaswelltog wedi cael eu torri gan SWTRA mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod. Roedd yr ymylon glaswellt a oedd yn gyfrifoldeb i Gyngor Sir Caerfyrddin wedi’u nodi oherwydd eu bod wedi’u torri’n hwyr.
5. Adroddiadau
5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cefnogaeth yn ôl yr angen.
(b) Agor amgueddfa newydd ym Mhentywyn, byddai 41 o swyddi’n cael eu creu.
(c) Cyfarfod caffael busnes yn cael ei gynnal ar 18 Gorffennaf, 2023.
Holodd y Cynghorydd J. Thompson a oedd gwybodaeth ynghylch pa mor fuddiol fu’r Eisteddfod i fusnesau yn ardal Llanymddyfri.
5.2 (b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Dim i’w adrodd.
5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Dim i’w adrodd ar gyfer ardal Llanwrda. Er bod ‘na ladrad wedi bod ar ffermydd eraill yn yr ardal.
6. Gohebiaeth
(1) Pecynnau Gardd Am Ddim
(Clerc i holi a oedd y rhain ar gael i unigolion)
(2) Un Llais Cymru – arolwg cysylltedd Cymru
(3) Rheolau Sefydlog Diwygiedig
(4) Wythnos Rhoddwyr Gwaed
(5) Bwletin Un Llais Cymru
(6) Cyfathrebu 20 m.y.a. – LlCC
(7) Cynllun Dyffryn Tywi Gwyrdd
(8) Cyngor Sir Caerfyrddin – Cynllun cyfeillgar i wenyn
(9) Un Llais Cymru – newid hinsawdd
7. Cyllid
(a) Taliadau
Cyflog Clerc – £565.59
CThEM – £122.00
We Dig Media – £230.40
Ambiwlans Awyr Cymru – £50.00 (tâl y cadeirydd)
(b) Rhoddion
Derbyniwyd cais am gyfraniad gan C.C. Llanwrda, roeddent yn sefydlu cronfa bwrsari i helpu chwaraewyr ifanc. Y Clerc i holi am ragor o wybodaeth.
Archwiliad 2022/2023
Roedd y wybodaeth yr oedd ei hangen ar Swyddfa Archwilio Cymru wedi’i chwblhau. Roedd rhan o’u gwybodaeth yn gofyn am brawf bod Cynghorwyr wedi arwyddo ffurflen os nad oedd angen y treuliau o £150.00 arnynt.
Ffurflenni IRP
Gallai Cynghorwyr Cymuned hawlio £150.00 o dreuliau, os nad oedd angen y taliad arnynt rhaid iddynt lofnodi ffurflen i gadarnhau.
(a) Cyllid 2023/2024
Bydd hyn yn cael ei adolygu yng nghyfarfod mis Medi.
(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Y rhain i’w llofnodi yn y cyfarfod nesaf, ar ôl derbyn adroddiadau banc.
8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.
9. Busnes brys
(1) Rheolau Sefydlog
Roedd Un Llais Cymru wedi diweddaru’r Rheolau Sefydlog, gan gyfeirio at gyfarfodydd rhithwir ac ati. Y Clerc i nodi’r newidiadau ac anfon copi at bawb.
(2) Siop pop-up ffabrig
Roedd Doughty’s o Henffordd yn dod â siop Ffabrig dros dro i Neuadd Bentref Llanwrda ar 26 Awst, 2023. Gofynnodd y Cynghorydd M. Goddard-Pepperzak a oedd modd gosod poster ar Facebook a’r wefan. Cytunwyd ar hyn.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Nid oedd y Cyngor Cymuned yn cyfarfod ym mis Gorffennaf fel arfer oherwydd Sioe Frenhinol Cymru. Felly dylai’r cyfarfod nesaf fod wedi bod ar 16eg Awst. Ond fe ddaeth neges i law yn dweud nad oedd neb yn gwrthwynebu cyfarfod ym mis Gorffennaf. Felly byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar nos Fercher 19eg Gorffennaf, 2023 drwy MS Teams am 7.00 p.m., y Clerc i anfon y ddolen.