CYNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 o’r gloch gan ddefnyddio MS Teams, Nos Fercher 19eg Gorffennaf, 2023
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd R. Jones
Cynghorwyr: J. Thompson, M. Goddard-Pepperzak, B. Charles Davies
Cynghorydd Sir A. Davies
1. Ymddiheuriadau
Pawb yn bresennol.
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis, Bute Energy
Cynghorydd B. Charles Davies – Bute Energy
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
9 (a) Lle Chwarae
Ni dderbyniwyd anfoneb gan Wicksteed. Cytunwyd i ofyn i Huw Gwynne Fencing dorri’r gwair o amgylch y siglenni, o dan y meinciau, ayb yn ôl yr angen. Y gwaith i’w adolygu ym mis Medi.
9 (e) Cŵn yn Baeddu – lôn yr ysgol
Dim byd pellach i’w adrodd.
9 (i) Ffordd yr A40 – Llanwrda
Ni dderbyniwyd ateb hyd yma oddi wrth Lee Waters, A.S.
9 (k) Ynni Bute
Dim diweddariadau pellach.
9 (1) Rheolau Sefydlog
Yr wybodaeth ychwanegol am gyfarfodydd rhithwir i’w diweddaru i’r Rheolau Sefydlog presennol.
5. Adroddiadau
5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Sesiynau galw heibio ar 25 Gorffennaf, 2023 – busnes/tai
(b) Blynyddoedd ysgol gynradd 3/4 – prydau ysgol am ddim
5.2 (b) Adroddiad Cornwallis
Cafwyd cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus iawn yn ddiweddar, cyfarfod a fynychwyd gan lawer. Adroddwyd bod Bro Myrddin wedi’i gohirio, grant treftadaeth o £20,500.00 wedi ei dderbyn ac astudiaeth dichonoldeb pellach yn cael ei threfnu. Trafodwyd y posibilrwydd o adeiladu toiledau cyhoeddus ar ochr neuadd yr ysgol, neu efallai ynghlwm wrth y gegin. Roedd sôn am adeiladu 13 o dai, ond roedd ffosffad yn broblem. Gobeithio y gallent dod o hyd i 2 neu 3 Ymddiriedolwr ychwanegol.
5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Dim i’w adrodd o ardal Llanwrda
6. Gohebiaeth
(1) Cyflwyno 20 m.y.a. (gwrthwynebiadau)
(2) Gwaith ar Bont Llandeilo
(3) Hywel Dda – arolwg o brofiad gwasanaeth
(4) CSC – newyddion diweddaraf
(5) CSC – cyfarfod pwyllgor ardal
(6) Gwahoddiad – paratoi ar gyfer 20 m.y.a.
(7) Cadwch Gymru’n Daclus – pecynnau garddio am ddim
(8) Arolwg Cysylltedd Cymru
7. Cyllid
(a) Taliadau
S. Knight – £132.00
(b) Rhoddion
Derbyniwyd gwybodaeth bellach oddi wrth C.C. Llanwrda. a thrafodwyd a chytunwyd i roddi rhodd o £50.00
Archwiliad 2022/2023
Dim byd pellach i’w adrodd
Hawliau IRP
Byddai gwybodaeth a ffurflen yn cael eu hanfon at bob aelod.
(a) Cyllideb 2023/2024
Hyn i’w drafod yng nghyfarfod mis Medi.
(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Y rhain i’w postio i’w llofnodi.
8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol
9. Busnes brys
Dim.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Y cyfarfod rhithwir nesaf i’w gynnal Nos Fercher 20fed Medi, 2023. Y Clerc i anfon linc am 6.55 p.m.