CYNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod MS Timau Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 o’r gloch nos Fercher 15fed Tachwedd, 2023.
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd R. Jones
Cynghorwyr: J. Thompson, M. Goddard-Pepperzak,
Cynghorydd Sir Arwel Davies
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd B. Charles Davies
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18fed Hydref, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis, Bute Energy
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
9 (a) Lle Chwarae
Dim i’w adrodd. Yn aros am adroddiad arolygiadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
9 (e) Cŵn yn baeddu – lôn yr ysgol
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion pellach.
9 (k) Ynni Bute
Dim diweddariadau wedi’u derbyn.
9 (a1) Digwyddiad Coeden Nadolig – Llanwrda
Adroddwyd bod un set o oleuadau yn ddiffygiol. Byddai Siôn Corn, Côr, ac ati yn bresennol, rhestr i’w rhoi i’r Cynghorydd J. Thompson er mwyn rhoi’r wybodaeth ar y dudalen Facebook. Cytunodd y Cynghorydd M. Goddard-Pepperzak i gael manylion.
5. Adroddiadau
5.1 (a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Dim RARC ym mhob ysgol.
(b) Roedd Sioe Deithiol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei chynnal ar 5 Rhagfyr.
(c) Tyrbinau Gwynt Bryngadwgan – cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Pumsaint, 7fed Rhagfyr, 2023 gyda Cefin Campbell, Anne Davies ac Adam Price yn bresennol.
5.2 (b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Dim i’w adrodd.
5.3 (c) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Dim i’w adrodd.
6. Gohebiaeth
(1) Ymgynghoriad Diogelwch Ffyrdd
(2) Cronfa Tanwydd Cymunedol
(3) Diweddariad Cyngor Sir Caerfyrddin
(4) Grantiau Cadwch Gymru’n Daclus
(5) Cyngor Cymuned – ymgynghoriad Iechyd Democrataidd
(6) Cyngor Sir Caerfyrddin – Cyfarfod Ardal
(7) Cenedlaethau’r Dyfodol – Comisiynydd Cymru
(8) Un Llais Cymru – Rheoli Asbestos
(9) Un Llais Cymru – Cynhadledd Economi Werdd
(10) Dathliadau diwrnod ‘D’ – 6 Mehefin, 2024 (ychwanegu at yr agenda)
7. Cyllid
(a) Taliadau
Torch Pabi – £25.00
Cyflog Clercod (cyfieithiadau, post, band llydan) – £566.00
CThEM – £122.00
(b) Rhoddion
Derbyniwyd ceisiadau am roddion gan y canlynol a chytunwyd i roi rhodd:
C.FF.I. Sir Gar – £50.00
Derbyniwyd cais gan Eglwys Gwrdaf, y Clerc i gael rhagor o wybodaeth.
Adroddiad Archwilio 2022/2023
Cynhwysir yng nghofnodion y cyfarfod nesaf
(a) Cyllideb 2023/2024
Roedd adroddiad cyllideb wedi’i baratoi ac anfonwyd copïau gyda’r cofnodion
(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Adroddiad Ariannol wedi’i baratoi a’i ddosbarthu, copïau i’w hanfon at y Cynghorydd M. Goddard-Pepperzak i’w llofnodi.
Praesept
Trafodwyd yr Adroddiad Cyllideb a chytunwyd i gynyddu’r Praesept a’i gwblhau yn y cyfarfod nesaf.
IRP
Anfonwyd copïau o’r ymgynghoriad i bawb, caniatawyd i Gynghorwyr Cymuned hawlio cyllid ar gyfer defnyddio eu cartref fel swyddfa. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Taliadau S137
Ar gyfer 2024/2025 byddai hyn yn £10.81 fesul trethdalwr.
8. Holi’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.
9. Busnes Brys
9 (a2) Pŵer Cymhwysedd
Anfonwyd copïau o’r wybodaeth ynglŷn â Phŵer Cymhwysedd at bob aelod.
9 (a3) Cofeb y Pentref
Sylwyd bod y coed oedd wedi gordyfu wedi staenio pen y gofeb. Y Clerc i gysylltu â Griffiths Bwtrimawr i gael golwg ar y gwaith angenrheidiol, gan eu bod wedi gwneud gwaith ar y Gofeb yn flaenorol yn 2018.
Roedd y Torch Pabi wedi diflannu o’r gofeb, cytunodd y Clerc i gyfrannu un arall.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Y cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 17eg Ionawr, 2024. Y Clerc i anfon linc am 6.50 yr hwyr.