Ionawr 2024

CYNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion cyfarfod rhithwir Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 o’r gloch nos Fercher 17eg Ionawr, 2024.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd R. Jones
Cynghorwyr: J. Thompson, B. Charles Davies
Cynghorydd Sir A. Davies

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd M. Goddard-Pepperzak

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15fed Tachwedd, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis, Bute Energy

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

9 (a) Man Chwarae
Derbyniwyd Adroddiad yr Arolwg oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin ac anfonwyd copi at bawb. Y Clerc i ddarllen drwy’r adroddiad a rhoi gwybod i’r Cadeirydd os oedd unrhyw faterion Risg Uchel.

9 (e) Cŵn yn Baeddu – Lôn yr Ysgol
Ni dderbyniwyd unrhyw faterion pellach.

9 (k) Ynni Bute
Ni dderbyniwyd unrhyw ddiweddariadau pellach.

9 (a1) Digwyddiad Coeden Nadolig – Llanwrda
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr ac fe’i cefnogwyd yn dda iawn.

9 (a2) Pŵer Cymhwysedd
Mae gwybodaeth ynghylch Pŵer Cymhwysedd wedi’i anfon at bob aelod, ar hyn o bryd nid yw Cyngor Cymuned Llanwrda yn gymwys ar gyfer Pŵer Cymhwysedd.

Mae’r math o weithgareddau y gellid defnyddio’r Pwer Cymhwysedd yn cynnwys:
Benthyca neu fuddsoddi arian e.e. i gefnogi gweithgareddau pentref neu dref, neu i gefnogi a chynhyrchu busnesau lleol.
Darparu cymorth a gweithgareddau dewisol e.e. cymryd drosodd cyfleusterau ieuenctid neu gynnig cymorth wedi’i drefnu (fel cynorthwywyr darllen/rhifedd i ysgolion)
Cynhyrchu a gwerthu ynni gwyrdd
Adeiladu a darparu ystod o gyfleusterau cymunedol.

9 (a3) Cofeb y Pentref
Derbyniwyd dyfynbris o £600.00 gan Cwmni Cofeb Griffiths ar gyfer adnewyddu’r Gofeb Ryfel. Gan mai gwaith i arbenigwr oedd hwn, fe’i trafodwyd a chytunwyd i fwrw ymlaen â’r gwaith.

5. Adroddiadau

5.1 (a) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Tyrbinau Gwynt Bryngadwgan – cyfarfod cyhoeddus yn Llanddewi Brefu

(b) Cyngor Sir Caerfyrddin – Ymgynghori ar y Gyllideb, roedd hefyd ar gael ar-lein.

5.2 (b) Adroddiad Cyswllt Cornwallis
Dim i’w adrodd.

5.3 (c) Adroddiad Cyswllt yr Heddlu
Ni dderbyniwyd unrhyw fanylion am gyfarfod.

6. Gohebiaeth
(1) Cau Ffordd Argyfwng – Llanwrda
(2) Ysgol Rhys Pritchard – swydd wag Llywodraethwr
(3) Cyfarfod Gwylio Cyflymder Cymunedol (rhithwir)
(4) Adroddiad arolygu Man Chwarae Llanwrda
(5) CSC – diweddariadau
(6) Adroddiad ymgynghori IRP
(7) Cyfarfod Ardal ULlC
(8) CSC – Cyfarfod Fforwm
(9) ULlC – Cyfarfod Economi Werdd
(10) C.FF.I. Sir Gar – diolch am y rhodd

7. Cyllid

(a) Taliadau
Hywel Lewis – Coeden Nadolig – £180.00
Cyngor Sir Caerfyrddin – £333.60
YNH – £13.00
Richard Rees – £25.00
Goleuadau Nadolig – £54.47

(b) Rhoddion
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.

Taliad Praesept
Derbyniwyd taliad mis Rhagfyr o £1,666.67.

(a) Cyllideb 2024/2025 – Praesept
Trafodwyd y praesept a chytunwyd i godi’r praesept o £5000.00 i £8,000.00 oherwydd costau cynyddol.

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Byddai copïau’n cael eu hanfon at y Cynghorydd M. Goddard-Pepperzak i’w llofnodi.

Adroddiad archwilio 2022/2023
Adroddiad a barn archwilio’r Archwilydd Cyffredinol
Tystiaf fy mod wedi cwblhau’r archwiliad o’r Ffurflen Flynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 ar gyfer Cyngor Cymuned Llanwrda. Cynhaliwyd fy archwiliad ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn unol â gofynion Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Barn yr Archwiliad: Diamod

Ar sail fy archwiliad, yn fy marn i, nid oes unrhyw faterion wedi dod i’m sylw i beri pryder, mewn unrhyw ffordd berthnasol, bod y wybodaeth a adroddir yn y Ffurflen Flynyddol hon:

Heb ei baratoi yn unol ag arferion priodol
Nad yw’r gofynion deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol wedi’u bodloni
Ddim yn gyson â threfniadau llywodraethu’r Cyngor; a
Nad oes gan y Cyngor drefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ei ddefnydd o adnoddau.

Materion eraill ac argymhellion

Nid oes unrhyw faterion pellach yr hoffwn dynnu sylw’r Cyngor atynt.

8. Holi’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.

9. Busnes brys

9 (a4) Cyfethol aelodau
Cytunwyd bod angen inni gyfethol rhagor o aelodau. Y Clerc i gael rhagor o wybodaeth gan y Swyddfa Etholwyr a’r wybodaeth hon yn cael ei rhoi ar Facebook a’r Wefan.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Y cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher, Chwefror 21ain, 2024. Y Clerc i anfon linc am 6.55 p.m.