Cofnodion Mehefin 2021

CYNGOR CYMUNED LLANWRDA

Cofnodion cyfarfod rhithwir Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd nos Fercher 16eg Mehefin, 2021 yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Thompson
Cynghorwyr: R. Jones, B. Saunders, B. Haworth, A. Turnbull
Cynghorydd Sir A. Davies

1. Ymddiheuriadau:
Cynghorydd J. Shipton, Cynghorydd M. Carroll

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai, 2021
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Gwefan – Cynghorydd A. Turnbull
Cornwallis – Cynghorydd Sir A. Davies
Llwybr Cyhoeddus – Cynghorydd B. Saunders

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

9 (a) Cae Chwarae
Derbyniwyd Adroddiad yr Arolwg Blynyddol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac anfonwyd copïau at bawb. Roedd problemau gyda’r algâu, mwsogl, ac ati, y rhain i’w trafod yn y cyfarfod nesaf. Roedd Glasdon yn parhau i holi a allent roi arwyddion baw cŵn newydd ar gyfer y biniau sbwriel i’r Cyngor Cymuned. Byddai’r offer chwarae’n cael ei drafod pan dderbynnir rhagor o wybodaeth gan Cornwallis ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd i’r offer.

8 (1) Ffordd i Orsaf Llanwrda – mwsogl ar yr heol
Ymholiadau i’w gwneud gyda Mr Steve Knight gan fod y Cyngor Cymuned wedi cytuno i dalu am yr hylif arbennig oedd ei angen i gael gwared ar y mwsogl.

8 (2) Ffordd i Orsaf Llanwrda – atgyweirio’r palmant, etc.
Roedd y Clerc wedi cysylltu gyda Cyngor Sir Caerfyrddin a derbyniwyd ateb yn dweud “Byddaf yn trefnu i’r llwybr troed gael ei asesu, ond bydd unrhyw waith gwella mawr yn gorfod cystadlu gyda llwybrau troed mewn ardaloedd trefol am gyllideb gyfyngedig.” Trafodwyd y posibilrwydd o drefnu cyfarfod safle.

Roedd y ffordd wrth ochr Pont yr Hafod hefyd wedi dymchwel, unwaith eto.

9 (2) Llwybrau Cyhoeddus
Roedd manylion y llwybrau wedi eu rhoi i Mr Jason Lawday, Cyngor Sir Caerfyrddin, ac yn gofyn am gyngor pellach.

Grŵp Gwylio Cyflymder Cymunedol
Trafodwyd y posibilrwydd o drefnu cyfarfod rhithwir.

9 (ii) Terfyn Cyflymder Pentref
Roedd y Clerc yn parhau i gysylltu â Mr M. Jacob, Cyngor Sir Caerfyrddin, ond ni dderbyniwyd ateb hyd yma.

9 (b) Gwefan
Roedd y Clerc wedi cysylltu gyda Cyngor Cymuned Llansadwrn ynglŷn â gwefan ar y cyd, ond byddai’n well ganddynt i’r wefan aros fel ag yr oedd ar hyn o bryd.

Trafodwyd y wefan eto a chytunwyd i drafod hyn ymhellach pan fydd gennym gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Trafodwyd y posibilrwydd o osod Bwrdd Gwybodaeth yn y pentref, lleoliad, maint a gwybodaeth i’w drafod ymhellach.

Mae’r Cynghorydd J. Thompson yn parhau i roi gwybodaeth ar y dudalen Facebook.

5. Adroddiadau

5.1 (b) Adroddiad y Cynghorydd Sir
(a) Roedd gan Sir Gaerfyrddin ddau ymgynghoriad byw ar hyn o bryd: (a) Strategaeth Wastraff a (b) Adfywio tai newydd

(b) Torri’r ymylon glaswelltir – bioamrywiaeth yn bwysig

(c) Roedd nifer y bagiau du a gesglir bob 3 wythnos, casgliadau gwastraff bwyd a chasgliadau gwydr ymyl y ffordd yn cael eu trafod ar gyfer 2022.

5.2 (b) Adroddiad Cyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Derbyniwyd ateb gan Cornwallis a gytunodd y byddai’r Ymddiriedolwyr yn mynychu cyfarfod mis Awst i roi diweddariad i bawb. Roedd problem gyda 3.5 erw o dir. Y Clerc i hysbysu’r Ymddiriedolwyr o’r drefn wrth fynychu’r cyfarfod.

5.3 (b) Adroddiad Cyswllt yr Heddlu
Dim i’w adrodd.

6. Gohebiaeth
(a) Cronfa Gweithredu Gymunedol ar gyfer grwpiau Gwirfoddoli
(b) Un Llais Cymru – gweminar Gwella Cymru
(c) grantiau Lleoedd i Natur
(ch) Sut i weithredu gorchmynion prynu gorfodol
(d) Heddlu Dyfed Powys – adroddiad blynyddol
(dd) Iechyd Cyhoeddus Cymru – Arolwg Cenedlaethol o Wirfoddolwyr
(e) Cyngor Sir Caerfyrddin – y newyddion diweddaraf
(f) Ymgynghoriad ar gymwysterau Clercod Cynghorau Cymuned

7. Cyllid

Taliadau
Cyflog y Clerc a dyletswyddau ychwanegol £458.60
(Cyflog £400.00, dyletswydd ychwanegol £90.00, Stampiau £30.60, Band Eang £36.00)
CThEM – £98.00
Glasdon (bin sbwriel newydd) – £967.72

Archwiliad 2020/2021
Mae’r pwyslais eleni mewn perthynas â’r Archwiliad:
(a) Copi o Gontract Cyflogaeth y Clerc. Nid oes Cytundeb Cyflogaeth felly anfonwyd copi o gofnodion y cyfarfod yn cadarnhau ei chyflogaeth i’r Archwiliad.
(b) Tystiolaeth i brofi bod y Clerc yn cael ei dalu TWE

Ffurflenni IRP
Roedd modd i Gynghorwyr Cymuned hawlio £150.00 o dreuliau yn flynyddol, os nad ydynt yn dymuno derbyn y treuliau mae’n ofynnol iddynt lofnodi’r ffurflenni priodol. Y Clerc i anfon copi at bawb gyda chofnodion y cyfarfod nesaf a’i ddychwelyd at y Clerc os nad ydynt yn dymuno hawlio’r £150.00.

(a) Cyllideb 2021/2022
Hyn i’w ddiweddaru yng nghyfarfod mis Medi.

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Copïau i’w hanfon at bawb a’u harwyddo yn y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 18fed Awst, 2021.