CYNGOR CYMUNED LLANWRDA
Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 p.m. yn Neuadd y Pentref, Llanwrda nos Fercher 21ain Medi, 2022.
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Thompson
Cynghorwyr: R. Jones, Arwel Davies
Cynghorydd Sir Arwel Davies
1. Ymddiheuriadau
Pawb yn bresennol.
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17eg Awst, 2022
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
9 (a) Lle Chwarae
Cytunodd y Cynghorydd J. Thompson i archwilio’r lle chwarae. Y Clerc i gysylltu â B. Haworth i dderbyn y ffeil archwilio maes chwarae. Roedd y Clerc wedi trefnu i Wicksteed gynnal yr archwiliad blynyddol a byddai hyn yn digwydd yn ystod mis Hydref ar gost o tua £150.00. Y Clerc i gysylltu â’r cwmni Adventure Playground ynglŷn â phryd y bydd y gwaith Tywallt Gwlyb yn cael ei wneud.
Trafodwyd a chytunwyd i brynu offer chwarae ychwanegol, y Clerc i gysylltu ag un o Ymddiriedolwyr Cornwallis er mwyn trafod y ffordd ymlaen. Hefyd, i drafod a allem sicrhau prydles/cytundeb ar gyfer y tir oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr offer chwarae.
9 (2) Llwybrau Cyhoeddus – cyfarfod cynnal a chadw
Roedd hyn yn parhau.
9 (xii) Torri lawr Coeden
Roedd y Clerc wedi cysylltu gyda Cyngor Sir Caerfyrddin ond ni chafwyd ateb.
9 (xi) Cyfethol Aelodau
Derbyniwyd dau lythyr o ddiddordeb oddi wrth: Mrs Bethan Charles Davies a Mrs Marianne Goddard-Peperzak. Trafodwyd ac ystyriwyd y ddau gais a chytunwyd eu bod yn cael eu cyfethol yn aelodau o Cyngor Cymuned Llanwrda.
5. Adroddiadau
5.1 (b) Adroddiad y Cynghorydd Sir
Roedd seremoni cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn cael ei chynnal.
5.2 (b) Adroddiad Cyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Yn absennol o’r cyfarfod.
5.3 (b) Adroddiad Cyswllt yr Heddlu
Roedd cyfarfodydd misol gyda’r PCSOs yn cael eu cynnal, y Clerc i roi manylion y Cynghorydd R. Jones i’r heddlu. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26 Medi, 2022 am 2.00 p.m.
6. Gohebiaeth
(a) Cronfa Rhwydwaith Natur
(b) Rhaglen Cyfathrebu Gwydn
(c) Rheoli Mannau Gwyrdd ar gyfer bioamrywiaeth
(ch) Grant Cadwch Gymru’n Daclus
(d) Grant Creu Coetir
(dd) Ymgyrch London Bridge
(e) Canllawiau Galar y Llywodraeth
(f) Gwahoddiad i Wasanaeth yng Nghadeirlan Tyddewi
(ff) Arolwg Bwyd CSC
7. Cyllid
Taliadau
Cyflog Clerc – £530.60 (yn cynnwys £60.00 cyfieithiadau, Postio £30.60, Band Eang/ffôn £36.00)
CThEM – £116.00
Steve Knight – £126.00
Yswiriant Cyngor a Thref Zurich – £1,283.26
Cornwallis – £1,000.00 (cynnal a chadw Cae Cymunedol gyda £1,000.00 arall yn cael ei dalu ym mis Ionawr, 2023)
Rhoddion
Cyfleusterau Chwaraeon Tregib – £50.00
Y Lloffwr – £30.00
C.FF.I. Sir Gâr – £50.00
Archwiliad 2021/2022
Dim i’w adrodd
(a) Cyllid 2022/2023
Roedd anrhegion Nadolig neu debyg i blant y pentref wedi eu trafod yn flaenorol, awgrymiadau i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo yng nghyfarfod mis Hydref.
(c) Llofnod Banc – tynnu ac ychwanegu
Hyn i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
(d) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu – Swyddfa Archwilio Cymru
Y Clerc/Cadeirydd i gwblhau Rhan 1 a’i hanfon ymlaen at bob aelod er mwyn cwblhau Rhan 2 o’r Pecyn Cymorth
8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.
9. Busnes brys
(xiii) Draeniau wedi’u Rhwystro
Roedd Mr Tony Birdwood wedi anfon lluniau o’r mater parhaus o lifogydd ar yr A482 ar ôl cawodydd trwm iawn. Adroddwyd hyn i Gyngor Sir Caerfyrddin.
(Xiv) Baner y Ddraig Gymreig
Roedd angen baner newydd gan fod yr un sydd ar y polyn fflag wedi mynd yn anniben, y gost fyddai £134.24 ynghyd â T.,A.W. Cytunwyd i brynu baner newydd.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf Nos Fercher 19eg Hydref, 2022.