Cofnodion Chwefror 2023

Cofnodion cyfarfod rhithwir Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 p.m. trwy MS Teams nos Fercher 15 Chwefror, 2023

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Thompson
Cynghorwyr: R. Jones, A. Davies

1. Ymddiheuriadau:
Cynghorydd B. Charles Davies, Cynghorydd M. Goddard Peperzak

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

9 (a) Man Chwarae
Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Wicksteed yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill. Roedd y Cynghorydd M. Goddard Peperzak yn archwilio’r lle chwarae.

9 (2) Llwybrau Cyhoeddus – cynnal a chadw
Hyn i’w drefnu yn y Gwanwyn.

7 (d) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu – LlCC
I’w gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Templed Cynllun Hyfforddi
Hyn i’w gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

9 (b) Golau Stryd wedi torri – Heol yr Orsaf
Roedd hyn eisoes wedi’i adrodd i Gyngor Sir Caerfyrddin.

9 (d) Casglu Sbwriel (Litter Pick)
Roedd hyn yn cael ei drefnu gan y Cynghorydd M. Goddard Peperzak

5. Adroddiadau

5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Cyfarfod i drafod Rheolaeth Traffig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri
(b) Ynni Bute – Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus yn Llandeilo a Llanymddyfri

5.2 (b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Dim i’w adrodd.

5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Roedd y Cynghorydd Sir A. Davies wedi mynychu’r cyfarfod, nid oedd unrhyw faterion yn Llanwrda.

6. Gohebiaeth
(1) ULlC – Arolwg Newid Hinsawdd
(2) CSC – Ymgynghoriad ar y Gyllideb
(3) Cyfarfod Ardal ULlC
(4) Hyfforddiant llythrennedd carbon ULlC
(5) Cyfrifiad Diffibrilwyr ULlC
(6) Cyngor ar Bopeth – LLAIS
(7) Dysgu Awyr Agored Un Llais Cymru
(8) Adolygiad Cynghorau Cymuned
(9) Ymgynghoriad Safle Ysbyty Newydd
(10) Garddwest Palas Buckingham
(11) Derbynneb gan YNH
(12) Gweithdy Plannu Coed
(13) Diweddariad Coetiroedd Brownhill
(14) Un Llais Cymru – Rachel Carter – bioamrywiaeth

7. Cyllid

Taliadau
Siec arall i Richard Rees – £25.00 (yn disodli siec rhif 000969
Aelodaeth Un Llais Cymru – £91.00
Cyflog Clerc (cyfieithiadau, post, band eang, inc) – £576.58
CThEM – £122.00

Rhoddion
Derbyniwyd ceisiadau gan Ysgol Gynradd Llangadog ac Adran Llyn y Fan – trafodwyd y rhain a chytunwyd i roi rhodd o £100.00 yr un.

Archwiliad 2021/2022
Dim diweddariadau wedi’u derbyn.

(a) Cyllideb 2023/2024
Mae hyn eisoes wedi’i gytuno a bydd yn cael ei drafod nesaf yn ein cyfarfod ym mis Medi.

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Paratoir adroddiadau chwarterol, llofnodir datganiadau banc ac adroddiadau yn y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf.

8. Holi’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.

9. Busnes brys

9 (e) Cŵn yn Baeddu – lôn yr ysgol
Roedd baw cŵn ar lôn yr Ysgol yn broblem, y Clerc i gael posteri gan Gyngor Sir Caerfyrddin i atgoffa pawb i roi’r “baw ci” yn y bin.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar MS Teams ddydd Mercher 15 Mawrth, 2023.