Author: Lyndsey Maiden

Sgam gwe-rwydo Facebook – neges gan Heddlu Dyfed Powys

Os fyddwch chi’n derbyn neges drwy Facebook yn holi “ai ti yw hwn/hon?” Peidiwch â chlicio ar y ddolen. Peidiwch â nodi eich rhif defnyddiwr na’ch cyfrinair ar gyfer Facebook! 

Sut i ddiogelu’ch hun yn erbyn gwe-rwydwyr 

 Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw a chymhleth ar gyfer eich holl gyfrifon ar-lein. Mae rheolwyr cyfrinair yn eich helpu i gynhyrchu cyfrineiriau cryf ac yn eich hysbysu pan fyddwch chi’n ailddefnyddio hen gyfrineiriau.

 Defnyddiwch ddilysu aml-ffactor lle bo’n bosibl.

 Byddwch yn ymwybodol o unrhyw negeseuon a anfonir atoch, hyd yn oed rhai gan eich cysylltiadau ar Facebook. Bydd ymosodiadau gwe-rwydo fel arfer yn defnyddio rhyw fath o deilwra cymdeithasol i’ch denu i glicio ar ddolenni maleisus neu lawrlwytho ffeiliau sydd wedi’u heintio.

 Cadwch lygad allan am unrhyw weithgarwch amheus ar eich cyfrif Facebook neu gyfrifon ar-lein eraill.

Cofio 2020

Mae cyfnod y Cofio yn hanfodol bwysig i bob un ohonom, er mwyn inni allu anrhydeddu gwasanaeth ac aberth cymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr werthfawrogi y bydd Awdurdodau Lleol, cynghorau tref a chymuned, ynghyd ag elusennau a’r Fyddin, yn cynllunio gweithgarwch y Cofio ar gyfer mis Tachwedd 2020 ac rydym am sicrhau bod gan drefnwyr gymaint o wybodaeth ar gael iddynt er mwyn cynllunio gweithgarwch y Cofio’n ddiogel.

O ystyried y sefyllfa bresennol gyda Covid 19, mae’n amlwg y bydd y Cofio eleni yn edrych ychydig yn wahanol i flynyddoedd blaenorol a bydd yn rhaid iddo ystyried y sefyllfa bresennol, gan adlewyrchu’r rheoliadau sydd ar waith ar y pryd i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi’r achlysur, er ei fod ar ffurf diwygiedig, gyda chyfranogiad yn agoriad Maes Cofio Cymru a Gŵyl Cofio (dan arweiniad y Lleng Brydeinig Frenhinol) a’r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol a fydd yn digwydd yn gyfyngedig.

Er mwyn i drefnwyr allu glynu wrth ganllawiau a chynllunio Deddfau Cofio yn ddiogel, rydym yn rhannu’r canllawiau cenedlaethol a lleol presennol i Gymru ynghylch Covid 19. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n symud yn gyflym, byddwn yn dosbarthu diweddariadau wrth iddynt ddigwydd a byddem yn annog trefnwyr i wirio a monitro cyhoeddiadau’n rheolaidd ynghylch gweithgarwch a ganiateir sy’n berthnasol i’r ardal. Nid yw’n bosibl rhagweld ble y byddwn ym mis Tachwedd fel y byddwch yn gwerthfawrogi ond gobeithiwn y bydd y canllawiau canlynol yn helpu i gynllunio gweithgarwch.

Cynhwysir rheolau ar gyfer crynoadau awyr agored a mannau addoli yn y Cwestiynau Cyffredin a gobeithiwn y bydd y rhain yn helpu i gynllunio Deddfau Cofio e.e. Wrth gofebau Rhyfel.
Links / dolenni:

Coronavirus regulations – FAQs / Rheoliadau corona firws – Cwestiynau Cyffredin:

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau?_ga=2.62663532.1967293491.1600772643-1165475327.1570627919

https://gov.wales/coronavirus-regulations-guidance

Local lockdown information / Gwybodaeth gloi leol:

https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol?_ga=2.63662959.1967293491.1600772643-1165475327.1570627919

https://gov.wales/local-lockdown

Guidance on leaving your home and seeing other people / Canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill:

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-adael-eich-cartref-gweld-pobl-eraill-coronafeirws?_ga=2.84521945.1771770827.1600963895-599435944.1574850030

https://gov.wales/guidance-leaving-your-home-and-seeing-other-people-coronavirus

Coronavirus and the law / Corona firws a’r gyfraith:

https://llyw.cymru/coronafeirws-ar-gyfraith?_ga=2.108742722.1967293491.1600772643-1165475327.1570627919

https://gov.wales/coronavirus-law

Newyddion Diweddaraf Covid Sir Gaerfyrddin

Gan fod y sefyllfa yng Nghymru yn newid o ddydd i ddydd, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn diweddaru ei rheolau a’i chanllawiau – rwy’n sylweddoli pa mor anodd yw hi i ddygymod â’r newidiadau amrywiol a chyflym, ond mae’n bwysig iawn i ni wneud hynny. Mae’n siŵr eich bod yn gwybod bod llawer o gyngor, atebion i gwestiynau cyffredin a dolenni i’r ddeddfwriaeth lawn ar wefannau Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Un o’r prif faterion sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar, lle mae angen atgyfnerthu’r neges, yw’r neges ynghylch pobl yn ymgynnull a digwyddiadau dan do.

Y rheol gyffredinol yw na allwch gwrdd yn gymdeithasol dan do â phobl nad ydynt yn eich aelwyd neu’ch aelwyd estynedig. Yn ogystal, o 14 Medi, mae’n rhaid cyfyngu ar y nifer a fydd yn cwrdd o dan do i 6 pherson (heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) hyd yn oed o fewn eich aelwyd estynedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol mewn mannau fel tafarndai a bwytai ynghyd â chartrefi pobl.

Wrth gwrs, mae llawer o Gynghorau Tref a Chymuned yn rheoli ac yn berchen ar leoliadau cymdeithasol fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol, ac mae’n bwysig iawn bod pobl yn cael cyngor priodol ynghylch ailagor y safleoedd hyn a chyn ceisio trefnu digwyddiad yn un o’ch lleoliadau. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn gosod cyfyngiadau ar bobl yn ymgynnull o dan do gydag eraill heb esgus rhesymol ac mae hyn fel arfer yn golygu y dylai unrhyw weithgareddau sy’n cael eu cynnal yn eich lleoliadau gael esgus rhesymol dros wneud hynny.

Ni chaniateir i chi drefnu cwrdd â phobl y tu allan i’ch aelwyd neu’ch aelwyd estynedig i fynd i rywle dan do, megis siopau, caffis, bwytai, bariau neu dafarndai. Yn yr un modd, ni ddylech drefnu i blant fynd i fannau dan do gyda’i gilydd, fel sinemâu neu arcedau difyrrwch, os nad ydynt yn rhan o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

Er bod cynulliadau o hyd at 30 o bobl yn cael eu caniatáu yn yr awyr agored, dylai oedolion a phlant barhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl nad ydynt yn eu haelwyd, neu eu haelwyd estynedig, lle bynnag ag y bo modd.

Gweler: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-adael-eich-cartref-gweld-pobl-eraill-coronafeirws

Rydych mewn sefyllfa dda iawn fel arweinwyr cymunedol i sicrhau bod y neges hon yn glir.

Efallai eich bod wedi gweld yn y cyfryngau bod ein swyddogion yn ymweld â lleoliadau ledled Sir Gaerfyrddin i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â mesurau Covid-19. Er eu bod yn hapus i helpu lle bynnag y gallant drwy gynnig cyngor a gwybodaeth, cyfrifoldeb y person sy’n gyfrifol am y safle yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth a bod popeth mewn trefn. Fel yr uchod, mae ystod o ffynonellau gwybodaeth ar wefannau Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir.

Yn olaf, mae llawer ohonom fel arfer yn helpu i drefnu digwyddiadau cymunedol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, cyn tymor y gaeaf. Yn Llanelli, rydym eisoes wedi gwneud penderfyniad i ganslo’r Carnifal Nadolig blynyddol – roedd hwn yn benderfyniad anodd, ond yr un cywir. Rwy’n siŵr y byddwch yn gweithredu’n ofalus, gan roi sylw i gyngor Llywodraeth Cymru ar ledaeniad y feirws yn y gymuned drwy gynulliadau mawr o bobl.