Ebrill 2024

CYNGOR CYMUNED LLANWRDA

Cofnodion cyfarfod MS Timau Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 p.m. ar nos Fercher, Ebrill 17, 2024.

Presennol;
Cadeirydd: Cynghorydd R. Jones
Cynghorwyr: B. Charles Davies, M. Goddard-Pepperzak
Cynghorydd Sir A. Davies

Roedd y Cynghorydd J. Thompson wedi ymddiswyddo fel aelod ac anfonwyd e-bost i ddiolch iddi am ei gwaith a’i chyfraniad i Gyngor Cymuned Llanwrda.

1. Ymddiheuriadau
Pawb yn bresennol.

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2024
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis, Bute Energy
Cynghorydd B. Charles Davies – Bute Energy

4. Materion yn codi o’r cofnodion

9 (a) Man Chwarae
Roedd y Clerc wedi archebu hylif er mwyn cael gwared â’r Graffiti fel o’r blaen oddi wrth Spaldings, Ltd. ac roedd D H. L. Gwynne Fencing wedi cytuno i lanhau’r Graffiti, ac unrhyw algâu ar yr offer chwarae.

9 (e) Cŵn yn Baeddu – Lôn yr Ysgol
Ni dderbyniwyd unrhyw faterion pellach.

9 (k) Bute Energy/Green GEN Cymru
Cafwyd cyfarfod llwyddiannus yn Neuadd Bentref Llanwrda, gyda Cefin Campbell, Ann Davies ac Adam Price yn bresennol. Trafodwyd a chytunwyd i ysgrifennu llythyr o wrthwynebiad i Green GEN Cymru.

9 (a) Cyfethol Aelodau
Trafodwyd hyn eto, a chytunwyd bod y Clerc yn anfon map o bentref Llanwrda i’r Cynghorydd B. Charles Davies yn dangos y ffin rhwng Llansadwrn a Llanwrda.

9 (a7) Terfyn Cyflymder Pentref
Ni dderbyniwyd unrhyw ddiweddariadau pellach gan Gyngor Sir Caerfyrddin

5. Adroddiadau

5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Bridio Cŵn yn Anghyfreithlon
(b) Etholiad Comisiwn yr Heddlu 2 Mai
(c) Cymorth pellach ar gael i blant ysgol gynradd
(d) Roedd Bwc y Bws yn ail gychwyn

5.2 (b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Dim i’w adrodd.

5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd yn ddiweddar, y Clerc i ymholi

6. Gohebiaeth
(1) Cyfarfodydd Pethau bychain ULlC
(2) Cyngor Sir Caerfyrddin 20 m.p.h. gorchymyn goryrru
(3) Gwasanaeth Gwaed Cymru
(4) Hyfforddiant Cod Ymddygiad
(5) Un Llais Cymru – Argyfwng costau byw
(6) Un Llais Cymru – Swyddog Costau Byw
(7) Cadwch Gymru’n Daclus – pecynnau hadau
(8) Gwyrdd GEN Cymru
(9) Baner Cofio ‘D Day’

7. Cyllid

(a) Taliadau
Baner – £78.00
S Knight (lôn ysgol) – £60.00
Aelodaeth Un Llais Cymru – £95.00
Costau Troedffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin – £1,588.91
Swyddfa Archwilio Cymru 2022/2023 – £200.00
Spaldings – £99.41
Griffiths Bwtrimawr – £600.00

(d) Rhoddion
Eisteddfod Llangollen
Dim ond yn lleol yr oedd y Cyngor Cymuned wedi cytuno i roi rhoddion

(a) Cyllideb 2024/2025
Hyn i’w ddiweddaru yng nghyfarfod mis Medi.

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo yng nghyfarfod mis Mai.

Archwiliad 2023/2024
Fel yr eglurwyd yn flaenorol eleni bydd Cyfrifon yn cael eu harchwilio gan yr archwiliwr mewnol a hefyd Swyddfa Archwilio Cymru. Maent angen copïau o bob anfoneb, llyfr cofnodi taliadau, cofnodion, ac ati.

Taliadau IRP
Llythyr i’w ddosbarthu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

8. Holi’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.

9. Busnes brys

9 (a8) Materion Ffyrdd
Derbyniwyd cwynion am y tyllau yn yr ardal, hefyd roedd tipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem.

9 (a9) Ffordd o’r Neuadd Gyhoeddus i Siop Pentref
Derbyniwyd cwynion ynglŷn â chyflwr y ffordd o’r Neuadd Gyhoeddus i Siop y Pentref. Hefyd, o’r Neuadd Bentref i Barc Newydd. Byddai’r rhain yn cael eu hadrodd i Gyngor Sir Caerfyrddin.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Fercher 15 Mai, 2024 yn Neuadd Pentref Llanwrda.