CYNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod rhithwir Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 p.m. trwy MS Teams nos Fercher 15 Mawrth, 2023
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Thompson
Cynghorwyr: R. Jones, B. Charles Davies, A. Davies
1. Ymddiheuriadau
Roedd gan y Cynghorydd M. Goddard Peperzak broblemau gyda’r cyswllt.
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
9 (a) Cornel Chwarae
Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf byddai’r gwaith yn cael ei wneud gan Wicksteed ym mis Ebrill. Roedd y Cynghorydd M. Peperzak yn parhau i archwilio’r Lle Chwarae.
9 (2) Llwybrau Cyhoeddus – cynnal a chadw
Hyn i’w drefnu yn y Gwanwyn.
7 (d) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu
Roedd hyn yn cael ei gwblhau.
Templed Cynllun Hyfforddi
Pob aelod i fynychu hyfforddiant Còd Ymddygiad.
9 (e) Cŵn yn baeddu – Lôn yr Ysgol
Mae hyn wedi cael ei adrodd i Gyngor Sir Caerfyrddin ond ni chafwyd ateb hyd yn hyn. Trafodwyd y posibilrwydd o osod Bin Sbwriel ar Lôn yr Ysgol, y Clerc i wneud ymholiadau ynglŷn â Thrwydded Cludo Gwastraff.
5. Adroddiadau
5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Cynllun Datblygu Lleol – dyddiad ymgynghori yn dod i ben 14eg Ebrill, 2023
(b) Cynnydd o 6.8% yn Nhreth y Cyngor
(c) Roedd codiadau hefyd yn cael eu codi ar unrhyw un oedd yn berchen ar ail gartref.
(d) Cyngor Sir Caerfyrddin – cronfa ffyniant a rennir
(e) Cyfarfodydd ymgynghori Ynni Bute yn cael eu cynnal yn Llanymddyfri
5.2 (b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Ni chynhaliwyd unrhyw gyfarfodydd pellach yn ddiweddar. Roedd nifer o’r Ymddiriedolwyr wedi ymddiswyddo.
5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Dim materion i’w hadrodd.
5. Gohebiaeth
(a) Ymgynghoriad safle ysbyty newydd Hywel Dda
(b) Ymgynghoriad Cyngor Cymuned
(c) ULlC – adroddiad bioamrywiaeth
(d) ULlC – Arolwg o anghenion hyfforddi
(e) CSC – ymgynghoriad Cynllun Datblygu Lleol
(f) CSC – cronfa ffyniant a rennir
(g) Cornerstone – Mast Cyhoeddus
(h) ULlC – bwletin
(i) Un Llais Cymru – cyfrifiad diffribiliwr
7. Taliadau
Dim
Rhoddion
Dim ceisiadau.
Archwiliad 2021/2022
Dim i’w adrodd.
(a) Cyllideb 2023/2024
Unrhyw ddiweddariadau i’w trafod yng nghyfarfod mis Medi.
(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau Banc
Y rhain i’w harwyddo yng nghyfarfod mis Mai.
6. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.
7. Busnes Brys
9 (f) Encilfa Llanwrda
Roedd cwynion wedi dod i law ynglŷn â sbwriel yn cael ei adael ar yr encilfa. Yn flaenorol roedd dau fin sbwriel yn eu lle ond roedd un wedi’i dynnu. Y Clerc i gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin ynglŷn â chael un newydd yn ei le.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar MS Teams ddydd Mercher 19 Ebrill, 2023.