CYNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL
Cofnodion cyfarfod rhithwir Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd am 7.00 p.m. trwy MS Teams nos Fercher 19 Ebrill, 2023
Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Thompson
Cynghorwyr: R. Jones, A. Davies, M. Goddard Pepperzak
1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd B. Charles Davies
2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2023
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.
3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis
4. Materion yn codi o’r cofnodion:
9 (a) Cornel Chwarae
Roedd y gwaith wedi ei gwblhau heblaw am yr arwydd, y Clerc i ymholi am Anfoneb. Cytunodd y Cynghorydd J. Thompson i archwilio’r offer chwarae.
9 (2) Llwybrau Cyhoeddus – cynnal a chadw
Hyn i’w drafod yng nghyfarfod mis Mai.
7 (d) Pecyn Cymorth Cyllid a Llywodraethu – Templed cynllun hyfforddi
Roedd adroddiad wedi’i baratoi a byddai ar gael ar y wefan.
9 (e) Cŵn yn Baeddu – lôn yr ysgol
Y Clerc i holi Cyngor Sir Caerfyrddin os ydynt wedi cynnal archwiliad.
9 (f) Encilfa Bancynos, Llanwrda
Roedd hyn wedi’i adrodd nôl i Gyngor Sir Caerfyrddin
5. Adroddiadau
5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Roedd Bute Energy yn cynnal ymgynghoriadau
(b) Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri ym mis Mehefin – gwybodaeth ar sut i gyrraedd y Maes ar gael
(c) Eisteddfod yr Urdd – Cost tocynnau am ddim/gostyngol ar incwm isel
5.2 (b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Ni chynhaliwyd cyfarfodydd
5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Dim problemau i’w hadrodd
6. Gohebiaeth
(1) Cyngor Sir Caerfyrddin – PL/5695 – 2 Glamping Pods yn Garreg Fechan
(2) Cyngor Sir Caerfyrddin – PL/5799 – Ffordd Fynediad – Wenallt, Llanwrda
(3) Cyngor Sir Caerfyrddin – Ymgynghoriad Cyngor Tref/Cymuned
(4) Newyddion diweddaraf Cyngor Sir Caerfyrddin
(5) grantiau bychain Coedtiroedd
(6) Cyfarfodydd ymgynghori Hywel Dda, ychwanegol
(7) Cyfarfod ardal Un Llais Cymru
(8) Un Llais Cymru – rhybudd brys ffôn
(9) Swyddog Cyfathrebu newydd Un Llais Cymru
(10) Mae rheolau sefydlog newydd Un Llais Cymru yn cael eu paratoi
(11) Dyddiadau hyfforddiant Un Llais Cymru
(12) Papur gwyn Diwygio Etholiadol
(13) Un Llais Cymru – diweddariad iechyd digidol
7. Cyllid
Taliadau
Costau etholiad Cyngor Sir Caerfyrddin – £161.66
Costau troedffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin – £1104.32
Swyddfa Archwilio Cymru – £200.00
H B Enoch Owen (TWE) – £56.10
Rhoddion
Derbyniwyd cais gan Eisteddfod Llangollen
Archwiliad 2021/2022
Tystysgrif ac Adroddiad Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru
Barn archwilio – diamod
Ar sail fy adolygiad, yn fy marn i, nid oes unrhyw faterion wedi dod i’m sylw sy’n peri pryder, mewn unrhyw ffordd berthnasol, y wybodaeth, a adroddwyd yn y Ffurflen Flynyddol hon.
(a) Cyllideb 2023/2024
Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru, os oes angen, yng nghyfarfod mis Medi.
(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo yn ystod y cyfarfod.
8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.
9. Busnes Brys
9 (g) Tyllau ar hyd y ffordd/tipio anghyfreithlon
Roedd y rhain yn faterion parhaus, a chynifer o bobl â phosibl i anfon adroddiad/cwyn i mewn drwy wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.
9 (h) Prosiect adeiladau ysgol Cornwallis
Roedd aelod o’r cyhoedd wedi anfon e-bost at y Cyngor Cymuned ynglŷn â phrosiect ar gyfer y pentref a defnyddio adeilad ysgol Cornwallis. Mae’r wybodaeth hon wedi’i throsglwyddo i ymddiriedolwyr Cornwallis.
10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 24ain Mai, y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac yna’r cyfarfod arferol. Byddai pob cyfarfod yn y dyfodol yn cael ei gynnal trwy MS Teams.