Mawrth 2022

CYNGOR CYMUNED LLANWRDA COMMUNITY COUNCIL

Cofnodion y cyfarfod rhithwir a gynhaliwyd trwy MS Teams ar nos Fercher 16eg Mawrth, 2022. Dylai’r cyfarfod fod wedi’i gynnal yn Neuadd y Pentref ond oherwydd problemau presenoldeb cynhaliwyd y cyfarfod trwy MS Teams.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Shipton
Cynghorwyr: J. Thompson, R. Jones, B. Haworth
Cynghorydd Sir A. Davies

Diolchodd y Cynghorydd Jon Shipton i’r Cynghorydd J. Thompson am gadeirio’r cyfarfod blaenorol yn ei absenoldeb.

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd B. Saunders, Cynghorydd M. Carroll.

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror, 2022
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Materion yn codi o’r cofnodion:

9 (a) Lle Chwarae
Cytunwyd bod Huw Gwynne Fencing yn glanhau’r Offer Chwarae ac unrhyw waith arall yn unol ag adroddiad yr Archwiliad. Roedd angen dwr a thrydan ac roedd y Clerc wedi cysylltu gyda Mr Lyn Rowlands a gytunodd i drefnu cyfarfod Huw ar y safle. Ni dderbyniwyd unrhyw gopïau o’r Cyfrifon Archwiliedig ac Yswiriant gan Cornwallis. Cytunwyd i wahodd aelod o Cornwallis i’r cyfarfod nesaf. Roedd ffeil archwilio’r Lle Chwarae gyda’r Cynghorydd M. Carroll. Adroddodd y Cynghorydd J. Thompson fod angen matiau newydd o amgylch rhai o’r offer chwarae. Y Clerc i gysylltu â Wicksteed neu Cyngor Sir Caerfyrddin.

Roedd baw cŵn yn parhau i fod yn broblem o amgylch yr Ardal Chwarae. Roedd y Clerc eisoes wedi cysylltu gyda Mr Michael Roberts, Cyngor Sir Caerfyrddin.

9 (2) Llwybrau cyhoeddus
Trafodwyd blaenoriaethu’r llwybrau cyhoeddus, y Clerc i gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin a chytunodd y Cadeirydd i siarad â Richard Rees am gyngor. Nid oedd unrhyw waith wedi’i wneud i glirio’r llwybrau cyhoeddus.

9 (ii) Terfyn Cyflymder trwy’r Pentref
Derbyniwyd ateb gan Tim Barnes – Arweinydd Tîm Priffyrdd ynglŷn â’r llythyr a anfonwyd at Lee Waters. Dywedodd ei ateb eu bod yn deall y problemau ynghylch cerbydau’n teithio’n gyflym drwy ardaloedd gwledig a’r pryderon a godwyd. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r terfynau cyflymder yn y rhwydwaith cefnffyrdd yn rheolaidd a daeth i’r casgliad na ddylai fod unrhyw newid ar hyn o bryd ar yr A40 yn Llanwrda.

Roedd ein Cynghorydd Sir wedi llwyddo i gael terfynau cyflymder ar gyfer pentrefi Porth-y-rhyd a Siloh i 20 m.y.a. Dylid derbyn e-bost ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.

9 (iv) Arwydd Cyflymder sy’n Fflachio
Roedd y Clerc wedi adrodd y mater hwn i Gyngor Sir Caerfyrddin sawl gwaith.

9 (viii) Baw ci
Fel y trafodwyd eisoes, roedd y materion baw cŵn wedi cael eu hadrodd i Mr Michael Roberts, Cyngor Sir Caerfyrddin.

5. Adroddiadau

5.1 (b) Adroddiad y Cynghorydd Sir
Roedd y Lori sydd yn llenwi tyllau o gwmpas y ffordd ddi-ddosbarth, ond heb gyrraedd Llanwrda

5.2 (b) Adroddiad Cyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Dim diweddariadau.

5.3 (b) Adroddiad Cyswllt yr Heddlu
Yn absennol o’r cyfarfod.

6. Gohebiaeth
(1) Cinio Mawr y Jiwbilî
(2) Un Llais Cymru – coed am ddim
(3) Etholiadau Cynghorau Sir Leol
(Y Cynghorydd J. Thompson i anfon copi o’r poster at y Clerc)
(4) Argyfwng Ffoaduriaid
(5) Ffurflen enwebu ar gyfer etholiadau lleol (Cynghorwyr Cymuned)
(6) Datganiadau o Ddiddordeb 2019-2020

7. Taliadau

Cyflog y Clerc – £400 (cyfieithiadau £60.00, post £30.60, Band Eang/ffôn £36.00) = £434.60
CThEM – £92.00
Costau Troedffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin – £1,117.67
Llusernau Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2022 – £333.60

Rhoddion
Dim ceisiadau

(a) Cyllid 2022/2023
Diweddarwyd yng nghyfarfod mis Medi

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
I’w arwyddo yng nghyfarfod mis Ebrill.

8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.

9. Busnes brys

9 (ix) Blaenoriaethu llwybrau troed
Roedd hyn eisoes wedi’i drafod yn gynharach yn y cyfarfod.

Diffibriliwr
Roedd y padiau ac ati ar gyfer y diffibriliwr wedi cyrraedd. Cytunodd y Cynghorydd R. Jones i’w gosod yn y diffibriliwr.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 20fed Ebrill, 2022.