Cofnodion Ionawr 2022

CYNGOR CYMUNED LLANWRDA

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanwrda a gynhaliwyd trwy MS Teams nos Fercher 19 Ionawr, 2022.

Presennol:
Cadeirydd: Cynghorydd J. Shipton
Cynghorwyr: R. Jones, J. Thompson, B. Haworth, M. Carroll, A. Turnbull
Cynghorydd Sir A. Davies

1. Ymddiheuriadau
Cynghorydd B. Saunders

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2022
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir.

3. Datganiad o Ddiddordeb
Cynghorydd Sir A. Davies – Cornwallis

4. Materion yn codi o’r cofnodion:

9 (a) Offer Chwarae
Yn dilyn apêl am rhodd gan Cornwallis anfonwyd siec o £1,750.00 i dalu am dorri gwair ac ati o amgylch yr offer chwarae. Roedd y siec yn daladwy i Letitia Cornwallis Trust yn unol â’r llythyr apêl. Gwrthodwyd y siec gan y banc a gofynnodd aelodau Cornwallis i’r siec fod yn daladwy i Cornwallis Charity School Fund.

Roedd ffeil archwilio’r Offer Chwarae yn parhau i fod gyda’r Cynghorydd M. Carroll. Roedd y Clerc wedi trefnu glanhau’r offer chwarae yn unol â’r adroddiad a dderbyniwyd llynedd wrth Gyngor Sir Caerfyrddin. H. Gwynne Fencing i wneud y gwaith.

8 (1) Ffordd i Orsaf Llanwrda, mwsogl ar y ffordd, atgyweirio’r palmant, ac ati
Trafodwyd a chytunwyd i dynnu’r rhain oddi ar yr Agenda gan fod y gwaith wedi ei wneud.

9 (2) Llwybrau Cyhoeddus
Roedd Mr H. Gwynne Fencing wedi cyfarfod â Mr Richard Rees, i drafod clirio’r Llwybrau Cyhoeddus.

Pont dros yr afon — Bishop’s Mill
Cytunwyd i ddileu hyn oddi ar yr Agenda am y tro gan fod arolwg newydd yn mynd i gael ei gynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mannau Gwyrdd – Lesley Griffiths A.S.
Lesley Griffiths, A.S. yn gyfrifol am Faterion Gwledig, felly trafodwyd a chytunwyd ein bod yn ysgrifennu am gyngor ynghylch lleihau’r terfyn cyflymder ar ffyrdd gwledig mewn ardaloedd gwledig. Cafwyd trafodaeth faith yn dilyn ynglŷn â’r hyn oedd wedi digwydd yn y gorffennol ynglŷn â Llanwrda, a chadarnhawyd y byddai’r cyfyngiad cyflymder yn cael ei ostwng yn 2023 i 20 m.y.a.

9 (ii) Terfyn Cyflymder Pentref/Grŵp Gwylio Cyflymder Cymunedol
Dim i’w adrodd

9 (iii) Gwefan
Nid oedd unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal.

9 (iii) Goleuadau Stryd
Adroddodd y Clerc fod goleuadau stryd ger Brodawel dal heb olau, nid oedd wedi ei atgyweirio hyd yma. Y Clerc i gysylltu gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.

9 (iv) Arwydd cyflymder fflachio
Roedd yn ymddangos bod yr arwydd cyflymder fflachio dim yn gweithio. Y Clerc i atgoffa Cyngor Sir Caerfyrddin mai nhw sy’n gyfrifol am ei gynnal.

5. Adroddiadau

5.1 (b) Adroddiad gan y Cynghorydd Sir
(a) Byddai unrhyw un sy’n hawlio Credydau Cynhwysol yn cael hawlio lwfans o £100.00, roedd tua 1,000 o hawliadau wedi’u derbyn hyd yn hyn.
(b) Roedd ymgynghoriad cyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin ar-lein, anogwyd pawb i gwblhau’r ymgynghoriad.
(c) Byddai Treth y Cyngor yn cynyddu 4.95%
(ch) Nid oedd unrhyw ddiweddariadau pellach ar gael ynglŷn â streic y Gritters.

(b) Adroddiad gan Gyswllt Ymddiriedolaeth Cornwallis
Dim i’w adrodd,

5.3 (b) Adroddiad gan Gyswllt yr Heddlu
Yn absennol o’r cyfarfod.

6. Gohebiaeth
Derbyniwyd ac arwyddwyd llythyr diolch gan bob aelod o’r Llanwrda Bloomers yn diolch i’r Cyngor Cymuned am eu holl gefnogaeth ac yn manylu ar y gwaith a gyflawnwyd.
(i) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/03196 – Garreg Fechan – 3 pod.
(ii) Cyngor Sir Caerfyrddin – ymgynghoriad cynllunio PL/03295 – Bwlchgwynt, Llanwrda – Fflat gwyliau hunanarlwyo.
(iii) Arian Jiwbilî’r Loteri
(iv) Prosiect Coetiroedd Cymunedol
(v) Cau Ffordd Argyfwng – C2161
(vi) Cronfa Cymunedau Cysylltiedig Sir Gaerfyrddin
(vii) Cau Ffordd Argyfwng – U4231
(viii) Cau Ffordd Argyfwng – 5/12/2021
(ix) Cymdeithas Mynyddoedd Cambria – sioe sleidiau
(x) Uwchraddio Rhwydwaith Nwy’r Gorllewin
(xi) Grant Gofalwyr Di-dâl
(xii) Cynghorydd a LlCC – pŵer cymhwysedd
(xiii) Jiwbilî’r Frenhines
(xiiii) Heneiddio’n Dda yng Nghymru
(xv) Bwletin Un Llais Cymru
Uchod anfon fy e-bost at bawb
(a) Arolwg ymgysylltu Baw Cŵn
(b) Comisiwn Ffiniau
(c) LlCC – Cyllideb ddrafft
(ch) Heddlu Dyfed Powys – “ydych chi’n ddiogel yn eich ardal”
(d) Gwybodaeth etholiadol

7. Taliadau a Rhoddion

Taliadau
Cyflog £416.00 (yn cynnwys dyletswyddau ychwanegol a thâl post/band eang)
CThEM £80.00
YNH (enw parth) – £12.00

Rhoddion
Urdd – Blaenau Tywi – £50.00

Praesept
Derbyniwyd taliad Rhagfyr o £1,666.67.

(a) Cyllid 2022/2023
Roedd hyn eisoes wedi’i gytuno.

(b) Llofnodi datganiadau ariannol chwarterol a datganiadau banc
Y rhain i’w harwyddo yng nghyfarfod mis Mawrth.

8. Cwestiynau’r Cyhoedd
Neb yn bresennol.

9. Busnes brys

9 (vi) Nadolig 2022 – ychwanegu at gyllideb 2022/2023
Trafodwyd yn fyr ychwanegu at y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023 – anrhegion Nadolig i blant y pentref, llyfrau, losin, a.y.y.b.

9 (vii) Cŵn yn Baeddu
Roedd hyn yn parhau i fod yn broblem fawr yn y pentref, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi paratoi posteri priodol, y Clerc i gael copïau erbyn y cyfarfod nesaf.

9 (viii) Diffibriliwr
Y Clerc i lenwi’r ffurflen “circuit” a anfonwyd at bawb gan Sefydliad Prydeinig y Galon. Roedd y Cynghorydd R. Jones wedi cytuno i fod yn “geidwad”. Roedd angen gwirio dyddiad y “padiau”.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyfarfod nesaf i’w gynnal Nos Fercher 16eg Chwefror, 2022.